Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/02/2020 i'w hateb ar 26/02/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

1
OAQ55126 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus yng ngorllewin Cymru?

 
2
OAQ55118 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cau ffyrdd a rheilffyrdd yn ddiweddar yn Nyffryn Conwy?

 
3
OAQ55113 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch penderfyniad y DVSA i gau'r ganolfan prawf gyrru yng Nghaernarfon?

 
4
OAQ55129 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r awdurdodau perthnasol ynghylch cynyddu capasiti trenau ar brif reilffordd de Cymru?

 
5
OAQ55127 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i arallgyfeirio economi Gorllewin De Cymru?

 
6
OAQ55128 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ysgogi'r economi yng Ngogledd Cymru?

 
7
OAQ55112 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu ffyniant economaidd ledled Cymru?

 
8
OAQ55125 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau bysiau yng Nghanol De Cymru?

 
9
OAQ55120 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd strategaeth twristiaeth Llywodraeth Cymru yn hybu economi Gorllewin De Cymru?

 
10
OAQ55132 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yn Aberafan ar gyfer gweddill y Cynulliad hwn?

 
11
OAQ55115 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gadernid y seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru?

 
12
OAQ55110 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yng nghanolbarth Cymru?

Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit

1
OAQ55108 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw femorandwm cydsyniad deddfwriaethol sydd ar y gweill a ddisgwylir o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE?

 
2
OAQ55116 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

Pa asesiad diweddar y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith ymadawiad y DU â'r UE ar drefniadau masnach a thollau yng Nghymru?

 
3
OAQ55133 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o safbwynt negodi'r UE yn ystod y trafodaethau presennol ar y gytundeb fasnach?

 
4
OAQ55135 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i awdurdodau lleol i gefnogi'r broses o roi cynllun Llywodraeth y DU, Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar waith?

 
5
OAQ55131 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch polisi mewnfudo yn y dyfodol ar ôl Brexit?

 
6
OAQ55111 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ynghylch polisi mewnfudo ar ôl i'r DU ymadael â'r UE?

 
7
OAQ55122 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

Pa gyfleoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u nodi ar gyfer Cymru o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE?

 
8
OAQ55136 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ymadawiad y DU â'r UE?