Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/09/2019 i'w hateb ar 25/09/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Addysg

1
OAQ54370 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ba mor effeithiol yw addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion?

 
2
OAQ54368 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 yn cael mynediad at gyrsiau galwedigaethol?

 
3
OAQ54392 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fforddiadwyedd gwisgoedd ysgol yng Nghymru?

 
4
OAQ54375 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi ysgolion gwledig Llywodraeth Cymru?

 
5
OAQ54367 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chonsortia gwella ysgolion Cymru?

 
6
OAQ54353 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysgu esblygiad yn ysgolion Cymru?

 
7
OAQ54383 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r amserlenni sy'n gysylltiedig â gweithredu'r system anghenion dysgu ychwanegol?

 
8
OAQ54362 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno asesiadau personol ar-lein i ddysgwyr ac ysgolion?

 
9
OAQ54365 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi plant mewn ysgolion, sydd â'u teuluoedd yn y lluoedd?

 
10
OAQ54386 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg yng Nghymru?

 
11
OAQ54379 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael mewn perthynas â chyfraniad Sony UK ym Mhencoed i ddatblygu sgiliau codio mewn ysgolion ar draws de Cymru?

 
12
OAQ54371 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau addysg ym Mhowys?

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1
OAQ54385 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros am ddiagnosis ar ôl i'r GIG ganfod amheuaeth o ganser?

 
2
OAQ54374 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran nifer y bobl y bydd penderfyniad y GIG yng Nghymru yn effeithio arnynt, i ddilyn y dull a gymerwyd gan y GIG yn Lloegr a chael gwared ar eitemau y barnwyd eu bod yn flaenoriaeth glinigol isel o'r rhestr o driniaethau rhagnodadwy?

 
3
OAQ54384 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gadw staff yn y GIG yng Nghymru?

 
4
OAQ54387 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau marwolaethau oherwydd canser yng ngogledd Cymru?

 
5
OAQ54393 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol yng Nghymru?

 
6
OAQ54359 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno'r gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf?

 
7
OAQ54389 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau marwolaethau sy’n gysylltiedig a chamddefnyddio cyffuriau ym Môn?

 
8
OAQ54380 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith traws-lywodraethol sy'n ystyried ardoll gofal cymdeithasol?

 
9
OAQ54377 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol llawfeddygaeth frys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg?

 
10
OAQ54382 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i recriwtio a chadw meddygon teulu yn Islwyn?

 
11
OAQ54373 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau rhestrau aros ysbytai yng Ngorllewin De Cymru?

 
12
OAQ54369 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i bobl sy'n byw gyda dementia yn eu cartref?