Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 20/02/2020 i'w hateb ar 25/02/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ55109 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2020

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid fferm yng Nghymru?

 
2
OAQ55121 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2020

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i effeithiau'r llifogydd diweddar ar ardaloedd gwarchodedig o'r amgylchedd naturiol yng Ngorllewin De Cymru?

 
3
OAQ55138 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu metro Bae Abertawe a chymoedd y gorllewin?

 
4
OAQ55117 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2020

A wnaiff Llywodraeth Cymru amlinellu pa gymorth y mae'n yn ei roi i gymunedau y mae Storm Dennis wedi effeithio arnynt?

 
5
OAQ55124 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch y gwasanaethau fasciwlar yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers iddyn nhw gael eu had-drefnu?

 
6
OAQ55140 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2020

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o werth am arian ac effeithiolrwydd gwariant Llywodraeth Cymru?

 
7
OAQ55141 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau sydd wedi dioddef llifogydd yng Nghymru?

 
8
OAQ55119 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gytundeb lefel gwasanaeth Llywodraeth Cymru gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio?

 
9
OAQ55114 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau addysg uwch yr effeithir arnynt gan gamau i atal lledaenu coronavirus?

 
10
OAQ55137 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith y llifogydd diweddar ar Ferthyr Tudful a Rhymni?

 
11
OAQ55123 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer gorymdeithiau Dydd Gŵyl Dewi eleni?

 
12
OAQ55134 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2020

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r difrod a achoswyd gan y stormydd diweddar i gymunedau yn Islwyn?