Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/01/2023 i'w hateb ar 25/01/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno cynllun hybiau cynnes Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyflog ac amodau gweithwyr y Post Brenhinol yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch cymunedol yn y Rhyl a Phrestatyn?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad pobl anabl at wasanaethau cyhoeddus?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Cyllid a Thollau EF, yr Adran Gwaith a Phensiynau ac awdurdodau lleol i sicrhau bod cymorth ariannol sydd wedi'i gynllunio i gynorthwyo gyda chostau byw uwch yn cyrraedd cymaint o bobl â phosib?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i roi cefnogaeth ariannol i awdurdodau tân ac achub?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar gynnydd cyfamod yr heddlu?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddatblygu cyfiawnder data?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar effaith y gyllideb ddrafft ar gyfiawnder cymdeithasol?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gydag awdurdodau perthnasol ledled Cymru i sicrhau diogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i deuluoedd sy'n profi caledi oherwydd y cynnydd mewn costau byw?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r defnydd o feilïaid wrth gasglu dyledion ar deuluoedd sy'n byw mewn tlodi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyngor y mae wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch effaith Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ar gymwyseddau datganoledig?
Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith yr ardoll prentisiaethau ar hyfforddiant cyfreithiol yng Nghymru?
Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i gallu i gynnal treial wythnos pedwar diwrnod yng Nghymru?
Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am sicrhau bod ymchwiliad cyhoeddus COVID-19 y DU yn gallu manteisio ar arbenigedd y sector cyfreithiol yng Nghymru?
Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Bil Trefn Gyhoeddus Llywodraeth y DU ar Gymru?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar effaith Bil Streiciau Trafnidiaeth (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) Llywodraeth y DU ar y setliad datganoli?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn ag effaith y Bil Streiciau Trafnidiaeth (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) ar y sector cyhoeddus yng Nghymru?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar weithredu'r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)?
Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch a oes ganddi'r pwerau cyfreithiol i gynnal neu gomisiynu ymchwiliad i sut mae honiadau yn erbyn swyddogion o fewn lluoedd heddlu Cymru'n cael eu trin?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i pholisi ynglŷn â statws cyfreithiol hunanadnabod rhywedd?
A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn fodlon bod y mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 yn orfodadwy?
Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei wneud o'r effaith y bydd penderfyniad Senedd y DU i atal Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (yr Alban) yn ei chael ar ddatganoli yng Nghymru?
Comisiwn y Senedd
A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y trafodaethau sydd wedi arwain at staff y Comisiwn yn cyhoeddi streic ar 1 Chwefror?
Sut mae'r Comisiwn yn hyrwyddo Senedd Cymru i'r byd?