Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/11/2020 i'w hateb ar 24/11/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ55943 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2020

Beth yw dadansoddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o nifer yr achosion o COVID-19 yn Nwyrain Casnewydd?

 
2
OQ55907 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2020

A wnaiff y Prif Weinidog lunio cynllun ar gyfer dod â chwaraeon tîm amatur yn ôl yng Nghymru?

 
3
OQ55944 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith COVID-19 ar yr economi ym Mhontypridd a Thaf-Elái?

 
4
OQ55945 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun peilot ar gyfer profion torfol COVID-19 ym mwrdeistref sirol Merthyr Tudful?

 
5
OQ55947 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chamwybodaeth am frechlynnau?

 
6
OQ55919 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr amcangyfrif o nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru?

 
7
OQ55900 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2020

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gall greu swyddi a chyfleoedd hyfforddi i bobl o bob oed yn Ogwr yng nghyd-destun dirywiad economaidd?

 
8
OQ55946 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau deintyddol yn Arfon?

 
9
OQ55910 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru?

 
10
OQ55918 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag ôl-groniad o ran rhestrau aros y GIG yng Ngorllewin Clwyd?

 
11
OQ55948 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2020

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DG ynglyn â pharatoi porthladd Caergybi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio Brexit?

Cwnsler Cyffredinol

1
OQ55902 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2020

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch achos ymgyrch Menywod yn erbyn Anghyfiawnder Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a anwyd yn y 1950au y gwrthodwyd eu pensiynau iddynt?

 
2
OQ55917 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2020

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o gymal 49 o Fil Marchnad Fewnol y DU?

 
3
OQ55903 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2020

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch goblygiadau cyfreithiol Brexit heb gytundeb?

 
4
OQ55915 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2020

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r ddeddfwriaeth sy'n sail i fabwysiadu ffyrdd o fewn datblygiadau tai newydd yng Nghymru?

 
5
OQ55911 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2020

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith yn y Deyrnas Unedig ynghylch cefnogi pysgodfeydd Cymru ar ôl i'r cyfnod pontio'r UE ddod i ben?

 
6
OQ55912 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2020

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith yn y Deyrnas Unedig ynghylch darparu cymorth i'r sector cig coch ar ôl i'r cyfnod pontio'r UE ddod i ben?