Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/03/2020 i'w hateb ar 24/03/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch rhoi cymorth i landlordiaid a thenantiaid ym mhob sector yng ngoleuni'r achosion o coronafeirws?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol yng Nghymru i ymateb i'r achosion o coronafeirws?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r canlyniadau i ddioddefwyr canser yr ofari yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am recriwtio staff yn y sector gofal cymdeithasol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith coronafeirws ar arholiadau ysgolion yng Nghymru eleni?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelu data yn y GIG?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i fusnesau a chyflogeion yn ystod y pandemig coronafeirws?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r economi yng Nghanol De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i brofi ac olrhain achosion o coronafeirws, fel y mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi galw am ei wneud?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaethau ar gyfer pobl ddigartref yn ystod yr argyfwng coronafeirws?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi banciau bwyd yn ystod yr argyfwng coronafeirws?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r risg o gynnydd mewn trais domestig yn ystod y cyfnod o ynysu oherwydd yr achosion o coronafeirws?
Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu cysylltiadau trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu swyddi o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau yn Sir y Fflint?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth brys y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer busnesau bach ledled Cymru yng ngoleuni'r achosion o coronafeirws?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd i ymdrin ag effaith coronafeirws ar drafnidiaeth gyhoeddus?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau economaidd sydd ar waith mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd sydd wedi'i ddatgan?
A wnaiff y Gweinidog roi manylion y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru effaith coronafeirws ar fusnesau bach yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau bach a microfusnesau yn Aberafan yn ystod yr argyfwng coronafeirws er mwyn sicrhau bod busnesau'n gallu goroesi a pharhau i weithredu ar ôl y cyfnod hwn?
Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ffordd y bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gweithio yn y dyfodol?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ynghylch marchnad sengl y DU?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU mewn perthynas â negodiadau'r UE a'r DU ynghylch perthynas Cymru â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am wasanaethau cynghori busnesau yn y cyfnod ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd?