Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/10/2019 i'w hateb ar 22/10/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â'i Chytundeb Fframwaith Capasiti Cludo Nwyddau arfaethedig?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar ddiwygio cyfraith lesddaliad?
Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i wella hyfforddiant sgiliau yng Nghymru dros y deuddeg mis nesaf?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ar waredu gwastraff niwclear yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Aberafan am weddill y Cynulliad hwn?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau casineb?
A wnaiff y Prif Weinidog egluro beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau’r nifer o blant mewn gofal?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd ers iddi ddatgan yr argyfwng newid hinsawdd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch creu Cronfa Ffyniant Gyffredin?
Sut y bydd y Prif Weinidog yn bwrw ymlaen â chynigion Llywodraeth Cymru ar ddiwygio cyfansoddiadol y DU?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyrannu lleoedd ysgolion yng Ngogledd Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod?