Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/05/2019 i'w hateb ar 22/05/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch sut y gellir defnyddio'r broses o gasglu ardrethi busnes a'r broses o ddyfarnu rhyddhad ardrethi busnes yn ôl disgresiwn er mwyn gwella'r stryd fawr yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael am yr opsiynau sydd ar gael i ddatrys y broblem fod perchnogion ail gartrefi yn osgoi talu trethi?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y cyllid cyfalaf a ddarperir i awdurdodau lleol?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i ariannu tai parod wrth ddyrannu cyllideb Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i wneud y dreth gyngor yn decach?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddull Llywodraeth Cymru o fonitro a rheoli cyllidebau?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno ardoll ar gwpanau coffi tafladwy yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyrannu cyllid yn y gyllideb ar gyfer llwybr du arfaethedig yr M4?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu arian cyfalaf ar gyfer Gogledd Cymru?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i brosiectau seilwaith lleol wrth ddyrannu'r gyllideb?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chyd-aelodau'r Cabinet ynghylch strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru?
Pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i helpu pobl â nam ar eu synhwyrau yng Nghymru wrth ddyrannu cyllid ar gyfer cyllideb 2019-20?
Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo'r Gymraeg yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth yng ngorllewin Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog chwaraeon cymunedol a gweithgareddau hamdden egnïol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu ymgysylltiad diwylliannol yng Ngogledd Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch darparu cyrsiau prifysgolion drwy gyfrwng y Gymraeg?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gysylltiadau Llywodraeth Cymru â Thwrci?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y Cytundeb Partneriaeth Economaidd rhwng yr UE a Japan ar Gymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo treftadaeth lofaol fel atyniad twristiaeth yng nghymoedd y de?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r sail foesegol ar gyfer strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu’r Gymraeg yn rhyngwladol?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu â sefydliadau rhanbarthol Ewrop pe bai Cymru yn gadael yr UE?
Comisiwn y Cynulliad
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gyfranogiad y Cynulliad yn Eisteddfod yr Urdd 2019?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad yn amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gosod dogfennau gerbron y Cynulliad yn y Gymraeg?
A wnaiff y Comisiwn ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio beiciau cargo ar gyfer danfoniadau i'r Cynulliad?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am hygyrchedd y Senedd i aelodau'r cyhoedd?