Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/09/2022 i'w hateb ar 21/09/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau allyriadau carbon yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa diogelwch adeiladau?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o sut y bydd penderfyniad Arriva Cymru i gynyddu prisiau yn effeithio ar drigolion Alun a Glannau Dyfrdwy?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod lleisiau cymunedau'n cael eu clywed mewn perthynas â datblygiadau cynhyrchu ynni newydd?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol a pherchnogion cartrefi preifat i ymateb i gostau ynni cynyddol?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella diogelwch dŵr yng Nghymru?
A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i rewi rhenti ac atal troi allan er mwyn helpu tenantiaid drwy'r argyfwng costau byw?
Pa bolisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru sydd ar waith i ddiogelu coetiroedd hynafol?
Pa gamau y mae'r Llywodraeth am eu cymryd i helpu tenantiaid yn ystod yr argyfwng costau byw presennol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi trigolion y mae gwaith deuoli'r A465 yn ardal Hirwaun wedi effeithio arnynt?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud tuag at gyrraedd ei tharged ar gyfer adeiladu cartrefi newydd yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella effeithlonrwydd ynni pyllau nofio yn ystod yr argyfwng ynni presennol?
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi myfyrwyr sy'n gwneud cyrsiau prifysgol israddedig sy'n gymwys i gael cyllid y GIG?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith yr argyfwng costau byw wrth ariannu ysgolion yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd er mwyn ceisio lleihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion ysgol o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganlyniadau arholiadau 2022 yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu i ysgolion yn sgil yr argyfwng costau byw?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu myfyrwyr gyda heriau costau byw?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i greu'r amgylchedd dysgu gorau ar gyfer plant?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi cynorthwywyr addysgu yn ysgolion Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ysgolion yn addysgu plant am bwysigrwydd natur a bioamrywiaeth?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud o ran hyrwyddo cyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb ar draws ysgolion cynradd yn Islwyn?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith chwyddiant ar gyllidebau ysgolion ar gyfer 2022-23 ?
Pa ddarpariaeth y mae ysgolion yn ei wneud ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd?