Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 16/01/2020 i'w hateb ar 21/01/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ54972 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r gwasanaeth iechyd dros y flwyddyn sydd i ddod?

 
2
OAQ54954 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â cham-drin domestig yng Nghymru?

 
3
OAQ54941 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wella trosglwyddiadau ambiwlansys yng Nghymru?

 
4
OAQ54977 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Casnewydd?

 
5
OAQ54956 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ne Cymru i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd?

 
6
OAQ54975 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/01/2020

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu dioddefwyr troseddau yng Nghymru?

 
7
OAQ54947 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen arfaethedig ar gyfer deuoli adrannau 5 a 6 o ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd?

 
8
OAQ54953 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg?

 
9
OAQ54971 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 16/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol maes awyr Caerdydd?

 
10
OAQ54937 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwyno 'cyfraith Lucy' i reoleiddio ffermio cŵn bach yng Nghymru?

 
11
OAQ54976 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflawni rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru?

 
12
OAQ54958 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod?