Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 13/11/2019 i'w hateb ar 20/11/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

1
OAQ54689 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

Pa ddyraniadau ychwanegol fydd ar gael yn ystod y cylch cyllideb presennol i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus wrth ymdrin â thywydd garw?

 
2
OAQ54723 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran diwygio caffael cyhoeddus er mwyn galluogi mwy o fwyd ffres ar gyfer ysgolion, ysbytai a chartrefi nyrsio i gael eu caffael yn lleol?

 
3
OAQ54712 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru yng Nghymoedd De Cymru?

 
4
OAQ54716 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r pwysau allanol sy'n effeithio ar broses Llywodraeth Cymru o bennu'r gyllideb?

 
5
OAQ54726 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

Pa gamau y mae'r Gweinidog yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod cyllideb arfaethedig Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gwariant ataliol?

 
6
OAQ54711 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol?

 
7
OAQ54694 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch dyraniadau cyllid i'r portffolio economi a thrafnidiaeth?

 
8
OAQ54690 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y model buddsoddi cydfuddiannol?

 
9
OAQ54702 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth ddyrannu cyllid fel rhan o'r Ail Becyn Buddsoddi Cyfalaf?

 
10
OAQ54715 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddarparu datganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leddfu'r baich trethu ar bobl ifanc ar ddechrau eu gyrfaoedd?

 
11
OAQ54718 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
12
OAQ54707 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fwriadau Llywodraeth Cymru parthed cyflwyno ardrethi anomestig ar brojectau ynni hydro?

Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

1
OAQ54697 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ymdrechion awdurdodau lleol yn ne orllewin Cymru i gwrdd â safonau'r Gymraeg?

 
2
OAQ54724 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau'r berthynas rhwng Cymru a gwledydd sydd â chysylltiadau cryf â'n cymunedau mwyaf amrywiol?

 
3
OAQ54725 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru ar Flaenau Gwent?

 
4
OAQ54693 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu Archif Genedlaethol Cymru?

 
5
OAQ54701 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y twristiaid sy'n ymweld â Chymoedd De Cymru?

 
6
OAQ54699 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i adfer Castell Rhiw'r Perrai ger Draethen?

 
7
OAQ54722 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran cynhyrchu concordat rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch trafodaethau masnach yn y dyfodol?

 
8
OAQ54708 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i chwaraeon cymunedol ym Merthyr Tudful a Rhymni?

 
9
OAQ54710 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynglyn â sut bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn mynd i gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?

Comisiwn y Cynulliad

1
OAQ54721 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y chwiliadau diogelwch ar ystâd y Cynulliad?

 
2
OAQ54706 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y cysylltiad a fu rhwng y Llywydd a’r Prif Weithredwr a Syr Roderick Evans o ran y cwynion ynghylch safonau?

 
3
OAQ54713 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd strategaeth gyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru?

 
4
OAQ54729 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am baratoadau ar gyfer ymestyn yr etholfraint cyn etholiad nesaf y Cynulliad ym mis Mai 2021?