Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/10/2026 i'w hateb ar 20/10/2026

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ64798 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2026

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r niferoedd sy'n manteisio ar wiriadau iechyd blynyddol ymhlith oedolion ag anableddau dysgu?

 
2
OQ64788 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2026

Sut mae'r Prif Weinidog yn cryfhau cydweithrediad â Gweriniaeth Iwerddon?

 
3
OQ64755 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r cymorth a ddarperir i blant a phobl ifanc mabwysiedig a'r rhai sydd â phrofiad o fod mewn gofal?

 
4
OQ64794 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2026

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddigonolrwydd lefelau staffio yn GIG Cymru?

 
5
OQ64781 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl sy’n byw gyda chlefyd niwronau motor ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni?

 
6
OQ64787 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2026

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig Fflint Wrecsam?

 
7
OQ64730 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2026

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau'r stryd fawr yng Ngŵyr Abertawe?

 
8
OQ64796 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau effeithlonrwydd a gostyngiad mewn gwastraff wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau gwell gwerth am arian i drethdalwyr?

 
9
OQ64795 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2026

Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddiwygio strwythur byrddau iechyd?

 
10
OQ64783 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2026

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun y Llywodraeth i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd erbyn 2030?

 
11
OQ64774 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi iechyd meddwl cyn-filwyr yng Nghymru sy'n wynebu ymchwiliad neu erlyniad mewn perthynas â'u gwasanaeth yng Ngogledd Iwerddon?

 
12
OQ64767 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2026

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo prosiectau ynni gwynt a solar ar safleoedd tir llwyd a safleoedd diwydiannol?

Y Cwnsler Cyffredinol

1
OQ64742 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/10/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch hawliau cyfreithiol plant mabwysiedig i geisio cymorth arbenigol os bydd eu hanghenion yn parhau i oedolaeth?

 
2
OQ64747 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 13/10/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch datganoli toll teithwyr awyr i Gymru?

 
3
OQ64735 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/10/2026

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o ddigonolrwydd pwerau cyfreithiol Gweinidogion Cymru i ymyrryd mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig?

 
4
OQ64725 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/10/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ei chyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas â’r ymchwiliad annibynnol i gangiau grŵmio?

 
5
OQ64746 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/10/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch datganoli darlledu i Gymru?

 
6
OQ64740 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/10/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch a yw dileu hawl rhieni i dynnu eu plant yn ôl o addysg cydberthynas a rhywioldeb yn gyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol?

 
7
OQ64736 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/10/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch cydnawsedd llunio polisïau Llywodraeth Cymru â Deddf Cydraddoldeb 2010?

 
8
OQ64745 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/10/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch pwerau Gweinidogion Cymru i alw ceisiadau cynllunio i mewn ar gyfer datblygiadau canolfannau data ar raddfa fawr, gan gynnwys y meini prawf statudol o dan y ddeddfwriaeth gynllunio berthnasol a'r dyletswyddau cyfreithiol sy'n gymwys pan geir cais o'r fath?

 
9
OQ64749 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/10/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch defnyddio sbectolau clyfar a alluogir gan ddeallusrwydd artiffisial mewn adeiladau cyhoeddus megis llyfrgelloedd a phyllau nofio, yn sgil y gwaharddiadau sydd mewn grym mewn llysoedd a thribiwnlysoedd?

 
10
OQ64737 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/10/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ei rôl yn yr ymchwiliad cenedlaethol i gangiau grŵmio?

 
11
OQ64744 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/10/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch goblygiadau cyfreithiol sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol benodol neu ar wahân i Gymru?

 
12
OQ64748 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/10/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch datganoli pwerau pellach dros reoleiddio a phrisio ynni?