Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 13/03/2024 i'w hateb ar 20/03/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Newid Hinsawdd
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith newid hinsawdd ar y rhwydwaith trafnidiaeth?
Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau ei bod yn cyflawni ei hymrwymiad i Gymru ddod yn garbon niwtral?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiwydiant ynni adnewyddadwy Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen buddsoddi i atal llifogydd Llywodraeth Cymru?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i sicrhau cyfranogiad cymunedol mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau ei bod yn cyflawni ei rhwymedigaethau amgylcheddol i bobl Sir Benfro?
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro a gwarchod llamhidyddion rhag bygythiadau fel mynd ynghlwm mewn rhwydi pysgota, llygredd cemegol a sŵn, hela, traffig cychod, a diffyg bwyd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng natur?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi arloesedd wrth ddatblygu llety dros dro fel rhan o'i strategaeth digartrefedd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at gyfrifoldeb perchnogion tir i gynnal ffosydd, cwlferi a chyrsiau dŵr i atal llifogydd?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi a hyrwyddo perchnogaeth gymunedol ar dir ac asedau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd o ran creu ysgol feddygol yng Ngogledd Cymru?
Sut mae GIG Cymru yn cefnogi teuluoedd â phlant anabl?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi practisau meddyg teulu yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi plant sydd â salwch cronig ac angheuol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod anghenion iechyd pobl anabl yn cael eu cefnogi?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi i'r corff anghywir gael ei ryddhau i deulu mewn profedigaeth o gorffdy ysbyty yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cwmbrân?
Sut mae Llywodraeth Cymru wedi gwella mynediad at ofal deintyddol y GIG i oedolion a phlant?
Sut mae'r Gweinidog yn mynd i'r afael â'r gystadleuaeth gynyddol am hyfforddiant arbenigedd meddygol yng Nghymru, o ystyried y nifer gyfyngedig o swyddi hyfforddi a'r nifer gynyddol o feddygon sy'n graddio?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch nifer y nyrsys canser y fron metastatig yng Ngogledd Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau gofal sylfaenol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol deintyddiaeth yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi fferyllfeydd cymunedol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?