Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/11/2019 i'w hateb ar 19/11/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ54704 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am wasanaethau trenau ar draws y gogledd?

 
2
OAQ54696 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau rhoi organau yng Nghymru?

 
3
OAQ54719 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r economi yn ne-ddwyrain Cymru?

 
4
OAQ54714 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae'r blaenoriaethau economaidd a nodir yn y rhaglen lywodraethu yn cyflawni ar gyfer pobl ym Merthyr Tudful a Rhymni?

 
5
OAQ54730 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth gofal iechyd sylfaenol yng Nghymru?

 
6
OAQ54705 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2019

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella amodau gwaith i athrawon yng Nghymru dros y 12 mis nesaf?

 
7
OAQ54731 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod niferoedd digonol o welyau ysbyty ar gael ar gyfer misoedd y gaeaf?

 
8
OAQ54703 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Canolfan Gymorth ACE yng Nghymru?

 
9
OAQ54717 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â TB Buchol?

 
10
OAQ54695 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu economi Gogledd Cymru?

 
11
OAQ54728 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cryfhau gwasanaethau ysbytai yn y Rhondda?

 
12
OAQ54720 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2019

Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i adolygu sut yr ymchwilir i gwynion o dan y Cod Gweinidogol?

Cwnsler Cyffredinol

1
OAQ54692 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/11/2019

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu mewn perthynas â chytundebau y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddynt?

 
2
OAQ54691 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/11/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chydaelodau'r Cabinet ynghylch datblygu cynigion deddfwriaethol er mwyn helpu i leihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal yng Nghymru?

 
3
OAQ54698 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/11/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynglŷn â mynediad at gyfiawnder yng Nghymru?

 
4
OAQ54700 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/11/2019

Pa drafodaethau diweddar y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith ynghylch canlyniad yr adolygiad barnwrol am y camdrafod honedig o ran codi oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod a anwyd yn y 1950au?