Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/06/2019 i'w hateb ar 19/06/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

1
OAQ54045 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatgarboneiddio?

 
2
OAQ54053 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer bioamrywiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni?

 
3
OAQ54055 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

Pa gamau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd i annog awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn defnyddio afonydd Cymru i ddarparu ynni?

 
4
OAQ54078 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch sut y gall Cyfoeth Naturiol Cymru weithio gyda chymunedau lleol i hybu twristiaeth?

 
5
OAQ54033 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Hybu Cig Cymru mewn perthynas â'r ardoll cig coch?

 
6
OAQ54056 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau a gymerir i gwblhau gweddill taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol?

 
7
OAQ54059 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoleiddio sefydliadau ailgartrefu anifeiliaid yng Nghymru?

 
8
OAQ54071 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y grant busnes i ffermydd?

 
9
OAQ54068 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau llygredd aer?

 
10
OAQ54049 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau Llywodraeth Cymru i leihau lefelau allyriadau yng Ngorllewin De Cymru?

 
11
OAQ54067 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

Sut y bydd cyflwyno cyfraith Lucy, sy'n ymwneud â rheoleiddio ffermio cŵn bach yn Lloegr, yn effeithio ar Gymru wledig?

 
12
OAQ54080 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth i ffermwyr yng Ngorllewin De Cymru?

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

1
OAQ54050 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i wella ansawdd tai yng Nghymru?

 
2
OAQ54065 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o adroddiad Pwyllgor Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Tŷ'r Cyffredin ar ddiwygio cyfraith lesddaliad?

 
3
OAQ54069 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant?

 
4
OAQ54072 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyllid sydd ar gael i adnewyddu tai ar gyfer pobl hŷn?

 
5
OAQ54062 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd tai mewn awdurdodau lleol ledled Cymru?

 
6
OAQ54075 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pwys a roddir ar ystyriaethau amgylcheddol yn y system gynllunio?

 
7
OAQ54057 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses gynllunio ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol?

 
8
OAQ54061 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â chyflymu'r gwaith o gynllunio a darparu addasiadau i gartrefi?

 
9
OAQ54032 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella ymwybyddiaeth a chyfranogiad y cyhoedd yn y broses o dan adran 106 o'r system gynllunio?

 
10
OAQ54064 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol yn ei chael ar wasanaethau yng Ngorllewin De Cymru?

 
11
OAQ54054 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi cynllunio fel y mae'n ymwneud â thir comin yng Nghymru?

 
12
OAQ54031 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr anheddau y disgwylir i gynghorau eu hadeiladu eleni?