Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/03/2024 i'w hateb ar 19/03/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o'r risg i iechyd pobl o lygredd o fwyngloddiau metel segur yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar sut mae Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo Cymru ledled y byd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfyngiadau terfyn cyflymder yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi lleoliadau cerddoriaeth fyw ac adloniant?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed i sicrhau diogelwch tomenni glo yn y Rhondda?
Pa gyngor fydd y Prif Weinidog yn ei roi i'w olynydd i sicrhau y caiff pŵer ei drosglwyddo'n ddidrafferth ac y bydd y llywodraeth yn gweithredu'n effeithiol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant a phobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
Pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi'u cael gyda sefydliadau cymorth brys a dyngarol ynghylch darparu cymorth i Gaza?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i ffoaduriaid o Wcráin ers i Rwsia ymosod ar eu gwlad?
Beth yw asesiad y Prif Weinidog o effaith hirdymor prydau ysgol am ddim i'r holl blant mewn ysgolion cynradd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â chamwybodaeth am ei pholisïau?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?