Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/11/2020 i'w hateb ar 18/11/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith tân gwyllt a werthir mewn siopau ar les anifeiliaid yng Nghymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau'r perygl o lifogydd yn y Rhondda?
A wnaiff y Gweindiog roi diweddariad am y cynllun Arbed yn Arfon?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella bioamrywiaeth?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y terfyn maint dal ar gyfer pysgod cregyn yng Nghymru?
Pa gymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i ddinasyddion Cymru y mae llifogydd a difrod dŵr yn effeithio'n rheolaidd ar eu heiddo ar gyfer atal a lliniaru effeithiau llifogydd?
Beth yw dadansoddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effeithiau COVID-19 ar ei pholisïau ar gyfer gwelliannau amgylcheddol yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â pharthau perygl nitradau ledled Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i ddarparu morlyn llanw ym Mae Abertawe?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiectau gwynt arnawf yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru am yr amgylchedd yng nghymoedd de Cymru?
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio?
Pa fesurau y bydd y Gweinidog yn eu hyrwyddo ar draws Llywodraeth Cymru i liniaru tlodi plant yn Ogwr?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag ail gartrefi ar draws Cymru?
Pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i sicrhau nad yw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig yn cael eu prisio allan o'u marchnadoedd tai lleol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol yn sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni'r agenda ddatgarboneiddio yn y sector tai cymdeithasol?
Pa gynnydd sydd wedi'i wneud ers 2016 i wella ansawdd stoc tai Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hawliau datblygu a ganiateir yng Nghymru yn sgil y pandemig COVID-19?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae'r pandemig parhaus yn ei chael ar gynllunio awdurdodau lleol ar gyfer y gaeaf?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid llywodraeth leol?