Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/04/2018 i'w hateb ar 18/04/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

1
OAQ51977 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am argaeledd derbyniad ffôn symudol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
2
OAQ51970 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi adroddiad ar hynt cynllun gweithredu digidol Llywodraeth Cymru?

 
3
OAQ51978 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 dair blynedd ers ei chymeradwyo?

 
4
OAQ52009 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gweithredu ei pholisi ar geiswyr lloches a ffoaduriaid?

 
5
OAQ52007 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cynrychiolaeth menywod mewn diwydiant?

 
6
OAQ52008 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cysylltedd rhyngrwyd symudol yn y Rhondda?

 
7
OAQ51988 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau diogelwch menywod yng Nghymru?

 
8
OAQ51999 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddarpariaeth band eang yng Nghanol De Cymru?

 
9
OAQ51971 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei bod yn bodloni gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 o ran mynediad ar gyfer disgyblion anabl?

 
10
OAQ51985 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y cynllun gweithredu i wella cysylltedd ffonau symudol?

 
11
OAQ52002 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect olynol Cyflymu Cymru?

 
12
OAQ51980 (w) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gamau nesaf Llywodraeth Cymru i gyflwyno band eang dibynadwy cyflym?

 
13
OAQ51986 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn Aberafan?

 
14
OAQ51984 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y broses gaffael ar gyfer cynllun olynol Cyflymu Cymru?

Comisiwn y Cynulliad

1
OAQ51992 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran dileu eitemau plastig untro o ystâd y Cynulliad?

 
2
OAQ51973 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am y ffyrdd y mae Cynulliad i cyfathrebu â'r cyhoedd yng Nghymru?

 
3
OAQ51979 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

Pa waith y mae’r Comisiwn yn ei wneud i leihau allyriadau carbon?

 
4
OAQ52003 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am y trefniadau ar gyfer rheoli asbestos ar ystâd y Cynulliad?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

1
OAQ51998 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

Pa gyllid ychwanegol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddarparu i'r portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus i gefnogi pobl sydd mewn dyled?

 
2
OAQ51976 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weithredu'r trethi datganoledig newydd cyntaf ers iddynt ddod i rym ar 1 Ebrill 2018?

 
3
OAQ52006 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymrwymiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant mewn perthynas â'r portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus?

 
4
OAQ51987 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol am beth fydd yn cymryd lle arian strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru yn dilyn Brexit?

 
5
OAQ52000 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau y bydd arian a godir gan y ddwy dreth ddatganoledig newydd yn cyfrannu tuag at fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol?

 
6
OAQ51993 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd mewn trethi cyngor ar drigolion Gorllewin De Cymru?

 
7
OAQ51974 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

Beth yw'r goblygiadau posibl ar gyfer penderfyniadau ariannu Llywodraeth Cymru o'r gostyngiad yng nghyllidebau'r heddlu gan Lywodraeth y DU?

 
8
OAQ51994 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyrannu arian i'r portffolio addysg?

 
9
OAQ51989 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ryddhad ardrethi busnes i fusnesau bach a chanolig yn 2018-19?

 
10
OAQ51968 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyraniad cyffredinol y gyllideb i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol?

 
11
OAQ51982 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyrannu arian i'r portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus?

 
12
OAQ51995 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r broses ar gyfer cyfrifo faint o arian a ddyrennir i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi gwasanaethau brys?

 
13
OAQ52004 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynigion Llywodraeth Cymru i newid cyfraddau treth yng Nghymru?

 
14
OAQ51991 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018

Pa gyllid ychwanegol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddyrannu i'r portffolio addysg i gefnogi disgyblion o deuluoedd incwm is?