Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/11/2020 i'w hateb ar 17/11/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ragolygon economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021 yng Nghanol De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cyllid ar gyfer rhaglenni a ariennir ar hyn o bryd gan yr UE drwy gronfeydd strwythurol?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i liniaru effaith y coronafeirws ar iechyd pobl yn y Rhondda?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd canlyniad etholiadau llywyddiaeth yr Unol Daleithiau yn ei chael ar strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru?
Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r niwed sy'n deillio o COVID-19 yng Nghasnewydd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau tlodi yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganslo asesiadau arholiadau TGAU, UG a Safon Uwch ar gyfer disgyblion yng Nghymru y flwyddyn nesaf?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael am y rhestrau aros am lawdriniaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu dadansoddiad o nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â coronafeirws fesul grŵp oedran?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr economi yng Nghanol De Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch negodiadau masnach yr UE?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella nifer yr achosion o gysgu ar y stryd yn Islwyn?
Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
Pa drafodaethau y mae'r Dirprwy Weinidog yn eu cael gyda sefydliadau'r trydydd sector ynghylch cyllid yn sgil effaith COVID-19 ar sut y maent yn gweithredu?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau diweddar ar gyfer gwaith cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru?
Pa asesiad y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i wneud o effaith COVID-19 ar y sector wirfoddol yng Nghymru?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am effaith pandemig y coronafeirws ar y gymuned Sipsiwn a Theithwyr?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i lochesi i fenywod yng Nghymru yn ystod y pandemig COVID-19?