Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/10/2019 i'w hateb ar 15/10/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ54508 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella amodau gwaith staff a gyflogir gan awdurdodau lleol yng Nghymru?

 
2
OAQ54534 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2019

Pa gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adfywio tai yng nghymoedd Ogwr?

 
3
OAQ54536 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2019

Pa drafodaethau am Brexit y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU yn ystod y mis diwethaf?

 
4
OAQ54537 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru ar gyfer Merthyr Tudful a Rhymni?

 
5
OAQ54510 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2019

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith ariannol y byddai annibyniaeth o weddill y DU yn ei chael ar Gymru?

 
6
OAQ54558 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith amcangyfrifon diweddaraf y boblogaeth ar wasanaethau cyhoeddus Cymru?

 
7
OAQ54515 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol?

 
8
OAQ54529 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2019

Sut y bydd y Rhondda'n elwa o Dasglu'r Cymoedd?

 
9
OAQ54561 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ofal dementia yn y Gymraeg?

 
10
OAQ54506 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi economaidd Llywodraeth Cymru?

 
11
OAQ54559 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ysgolion Cymru?

 
12
OAQ54557 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2019

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynghylch digonolrwydd y dyraniadau cyllid ar gyfer addysg yng Nghymru?

Cwnsler Cyffredinol

1
OAQ54520 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2019

Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch maint yr ystâd carchardai yng Nghymru?

 
2
OAQ54531 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2019

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phriodoldeb y canllawiau a roddir i awdurdodau lleol ar y cynllun bathodyn glas?

 
3
OAQ54513 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am waith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru?

 
4
OAQ54514 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gyda'i gyd-Weinidogion yn y Cabinet ynghylch datblygu cynigion deddfwriaethol i sicrhau terfynau cyflymder diogel ledled Cymru?