Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/07/2026 i'w hateb ar 14/07/2026

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ64428 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2026

A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw arbedion cost diriaethol mewn unrhyw adran yn ystod y Senedd hon hyd yn hyn?

 
2
OQ64369 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol a llawdriniaethau i gleifion yn Sir y Fflint a Wrecsam?

 
3
OQ64409 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2026

Pa ddadansoddiad y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o effaith cynllun gwariant ar amddiffyn Llywodraeth y DU ar gyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru?

 
4
OQ64429 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2026

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru?

 
5
OQ64392 (w) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2026

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar waith y Llywodraeth i ddatblygu gwasanaeth anghenion dysgu ychwanegol cynaliadwy?

Manylion Buddiant yr Aelod

Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe
Llysodraethwr Ysgol Gynradd Gymraeg Trebannws
 
6
OQ64427 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2026

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector gofal lliniarol yn well?

 
7
OQ64393 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i werthuso perfformiad ariannol y gwasanaeth iechyd, ac i sicrhau rheolaeth effeithiol ar gyllidebau iechyd?

 
8
OQ64424 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2026

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau bach a chanolig yn Sir Gaerfyrddin?

 
9
OQ64411 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ehangu’r cynllun gofal plant ar gyfer plant dwy oed ac i gyflwyno'r cynllun yn llawn ledled Cymru?

 
10
OQ64426 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2026

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant?

 
11
OQ64367 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cyfrifo'r cyllid y mae'n ei ddarparu i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys i ddarparu gofal i drigolion Powys?

 
12
OQ64371 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2026

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ym Mangor Conwy Môn?

Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad

1
OQ64378 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/07/2026

Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i asesu effeithiolrwydd llywodraeth ar draws adrannau?

 
2
OQ64376 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/07/2026

Pa gynnydd y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o ran datblygu dangosfyrddau digidol sy'n olrhain effeithiolrwydd adrannau'r llywodraeth?

 
3
OQ64379 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/07/2026

Sut mae'r Gweinidog Cabinet yn gweithio gyda chydweithwyr y cabinet i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ym Mhen-y-bont Bro Morgannwg?

 
4
OQ64388 (d) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 07/07/2026

Sut mae'r Gweinidog Cabinet yn gweithio gyda'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i gyflwyno'r adolygiad annibynnol o berfformiad y GIG, yn unol â blaenoriaethau'r Llywodraeth?

Manylion Buddiant yr Aelod

Rwy'n gweithio fel Offthalmolegydd yn GIG Cymru
 
5
OQ64386 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/07/2026

Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o'r manteision i Gymru of fod yn rhan o’r Deyrnas Unedig?

 
6
OQ64382 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/07/2026

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â datganoli pwerau dros ddŵr i Gymru?

 
7
OQ64385 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/07/2026

Sut mae'r Gweinidog Cabinet yn gweithio ar draws adrannau Llywodraeth Cymru i weithredu'r saith nod llesiant a nodir yn fframwaith Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol?

 
8
OQ64384 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/07/2026

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid ynglŷn â chyflawni blaenoriaeth y Llywodraeth ar ddiwygio'r fformiwla ariannu ar gyfer Cymru?

 
9
OQ64381 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/07/2026

Sut bydd y Gweinidog Cabinet yn gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i sicrhau bod deddfwriaeth bresennol yn cael ei gweithredu'n fwy effeithlon ar draws gwasanaethau cyhoeddus?

 
10
OQ64383 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/07/2026

Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o'r costau sy'n gysylltiedig â datganoli plismona i Gymru?

 
11
OQ64374 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/07/2026

Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o effaith maint a chost cynyddol sector cyhoeddus Cymru ar effeithiolrwydd darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus?

 
12
OQ64380 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/07/2026

A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi diweddariad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau datganoli cyfiawnder a phlismona?