Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/01/2020 i'w hateb ar 14/01/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ54906 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2020

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o gynlluniau Llywodraeth y DU i ddileu ymrwymiad i amddiffyn ffoaduriaid sy’n blant yn Ewrop sy’n ceisio ailuno â’u teulu yn y DU ar ôl Brexit?

 
2
OAQ54893 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am addysgu cymorth cyntaf sylfaenol mewn ysgolion?

 
3
OAQ54920 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2020

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith buddsoddiad economaidd yn Ogwr ers 2016?

 
4
OAQ54932 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y rhaglen Erasmus Plus?

 
5
OAQ54917 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng Nghasnewydd?

 
6
OAQ54934 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y diwydiant prosesu bwyd?

 
7
OAQ54929 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd y sector gweithgynhyrchu amddiffyn i economi Cymoedd De Cymru?

 
8
OAQ54930 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu?

 
9
OAQ54933 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar y ffyrdd yn Nwyrain De Cymru?

 
10
OAQ54902 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd?

 
11
OAQ54931 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2020

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu mynediad cyfartal at wasanaethau cerddoriaeth i blant yn Islwyn, ni waeth beth yw incwm rhieni?

 
12
OAQ54908 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2020

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog y defnydd o gerbydau trydan?