Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/10/2026 i'w hateb ar 13/10/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi'i wneud i ganfod a yw'r trefniadau cludiant ysgol presennol yn diwallu anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn Afan Ogwr Rhondda?
Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi'r gwaith o greu prosiectau ynni cymunedol a sicrhau bod manteision adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cadw yng Nghymru?
Pa welliannau mesuradwy o ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd Llywodraeth Cymru y mae'r Prif Weinidog yn disgwyl eu cyflawni yn ystod y Senedd hon?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatrys yr anghydfod o ran tâl ymwelwyr iechyd a graddio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?
Manylion Buddiant yr Aelod
Mae fy Mhartner yn gweithio o fewn y GIG.
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau cyhoeddus hanfodol yng nghanol trefi a dinasoedd ledled Cymru?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran mynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cleifion yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n dibynnu ar wasanaethau'r GIG yn Lloegr yn cael triniaeth amserol, y caiff gwybodaeth ei rhannu'n effeithiol, a bod atebolrwydd clir?
Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i wella ac integreiddio cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn Sir Fynwy Torfaen?
Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o hygyrchedd gwasanaethau o ran adfer o gaethiwed?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiadau i sicrhau bod gan bawb gartref diogel a fforddiadwy?
Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud wrth weithredu darpariaethau dichell fwriadol Deddf Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) 2026?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu caffael lleol drwy fentrau cydweithedol ac arferion busnes cymunedol eraill?