Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/07/2022 i'w hateb ar 13/07/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Economi

1
OQ58364 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i annog twf economaidd yn y gogledd?

 
2
OQ58348 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi yng Nghasnewydd drwy ddod â chyflogaeth i'r ddinas?

 
3
OQ58345 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i hyrwyddo masnach a buddsoddiad yng Nghymru yn fyd-eang yn dilyn tîm pêl-droed dynion Cymru'n cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2022?

 
4
OQ58351 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr y mae newidiadau ym mholisi banciau o ran cyfrifon cleientiaid sydd heb eu dynodi yn cael effaith andwyol arnynt?

 
5
OQ58339 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith economaidd Brexit ar Gymru?

 
6
OQ58334 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Beth yw blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro am y 12 mis nesaf?

 
7
OQ58342 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo twf economaidd yng Ngogledd Cymru?

 
8
OQ58343 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o bwysigrwydd ail-sefydlu marina yng Nghaergybi i economi'r dref?

 
9
OQ58353 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Pa fanteision a ddaw i Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn sgil sefydlu banc cymunedol i Gymru?

 
10
OQ58361 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Sut mae'r Gweinidog yn gweithio i sicrhau bod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang yn cael ei ymgorffori yn ei pholisi masnach?

 
11
OQ58354 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Pa astudiaethau a gwerthusiadau sydd wedi'u cynnal o ran effeithiau treth dwristiaeth ar fusnesau Cymru?

 
12
OQ58349 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant lletygarwch?

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1
OQ58358 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Sut mae'r Gweinidog yn ystyried llais cleifion er mwyn llywio penderfyniadau ar flaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru?

 
2
OQ58352 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am sefyllfa gwasanaethau deintyddol a ddarperir drwy’r GIG yn Arfon?

 
3
OQ58355 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y mesurau ymyrryd wedi'u targedu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

 
4
OQ58340 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau tiwmor yr ymennydd?

 
5
OQ58346 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Sut y mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y ffaith bod tîm pêl-droed dynion Cymru wedi cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2022 i wella iechyd y cyhoedd drwy gymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad?

 
6
OQ58356 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod cyfleoedd chwarae ar gael ac yn hygyrch i bob plentyn?

 
7
OQ58333 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella gwerth maethol prydau bwyd a weinir mewn ysbytai yng Nghymru?

 
8
OQ58362 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru?

 
9
OQ58347 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'i hagenda gofal iechyd ataliol?

 
10
OQ58332 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i atal clefyd y galon?

 
11
OQ58335 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal?

 
12
OQ58337 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am wasanaethau gofal sylfaenol?