Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/03/2024 i'w hateb ar 13/03/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r pwysau y mae busnesau yng Nghymru yn eu hwynebu?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch newid hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer meysydd carafannau?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gynlluniau i wella'r economi yn ninas Bangor?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf busnesau canol trefi yng Ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU yn ei chael ar economi Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu sgiliau ym maes gweithgynhyrchu yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau bach a chanolig i ddiogelu eu busnesau yn y dyfodol?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd y toriadau i'r portffolio diwylliant yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn effeithio ar y sector?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl ifanc i ddechrau gweithio ar Ynys Môn?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wneud y mwyaf o fanteision economaidd yr A465, sef ffordd blaenau'r cymoedd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog twf economaidd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar waith Cwmni Egino?
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi’u cael â’r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn ag effaith y Mesur Teithio gan Ddysgwyr?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddarpariaeth nyrsys mewn ysgolion?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gael gwared ar fwydydd wedi'u prosesu'n helaeth o brydau ysgol?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o bobl ifanc i astudio pynciau STEM?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau dull dim goddefgarwch o ran bwlio?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella presenoldeb disgyblion?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar blant sy'n colli addysg?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am hyfforddiant ar gyfer seicolegwyr addysg yn Arfon?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o safonau addysgol yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Fenter Iaith Abertawe?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gadw athrawon?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflawni ei chenhadaeth genedlaethol o wella safonau addysgol?