Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/03/2019 i'w hateb ar 13/03/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Addysg

1
OAQ53579 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y fformiwla a ddefnyddir i ddyrannu cyllid ysgolion?

 
2
OAQ53576 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau fydd yn cael eu rhoi i ysgolion ym mis Ebrill ynghylch trafod hunanladdiad?

 
3
OAQ53535 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau cynghorau yng Ngorllewin De Cymru i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg?

 
4
OAQ53552 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gall rhieni fforddio costau sy'n gysylltiedig ag addysg eu plant?

 
5
OAQ53556 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth i ddisgyblion ar y spectrwm awtistaidd mewn ysgolion?

 
6
OAQ53561 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru o ran sicrhau unffurfedd wrth bennu dyddiau HMS ar draws ysgolion yng Nghymru?

 
7
OAQ53533 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysgu ieithoedd tramor yn ysgolion Cymru?

 
8
OAQ53548 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllidebau ysgolion ym Môn?

 
9
OAQ53571 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o bwysau ariannol ar brifysgolion Cymru?

 
10
OAQ53547 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

Sut y mae adran y Gweinidog yn cyfrannu at y thema allweddol 'uchelgeisiol ac yn dysgu', fel sydd wedi'i nodi yn Ffyniant i Bawb – y Strategaeth Genedlaethol?

 
11
OAQ53580 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr adnoddau sydd ar gael i ysgolion Cymru?

 
12
OAQ53551 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau fod gan ysgolion gyllid digonol?

 
13
OAQ53546 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg y cyfnod sylfaen?

 
14
OAQ53562 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fforddiadwyedd gweithgareddau allgyrsiol mewn ysgolion?

 
15
OAQ53564 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

Sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau bod ail don rhaglen addysg ac ysgolion yr 21ain ganrif yn darparu cyfleusterau sydd o fudd i'r gymuned ehangach yn Islwyn?

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1
OAQ53568 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wardiau cymysg mewn ysbytai?

 
2
OAQ53566 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i daclo gordewrdra ymhlith plant a phobl ifanc ?

 
3
OAQ53541 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru?

 
4
OAQ53559 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda gweinidogion eraill y llywodraeth ynghylch rôl teithio llesol o ran hybu iechyd a lles ar gyfer plant a phobl ifanc?

 
5
OAQ53582 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfraddau bwydo ar y fron?

 
6
OAQ53554 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddefnyddio arfau diagnostig i asesu glowyr am arwyddion o niwmoconiosis?

 
7
OAQ53544 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal salwch yn ne Cymru?

 
8
OAQ53573 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn darparu gwasanaethau i bobl â pharlys yr ymennydd?

 
9
OAQ53565 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

Pryd y bydd cynnyrch misglwyf yn cael eu cynnig am ddim i gleifion ledled y GIG?

 
10
OAQ53563 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y niferoedd sydd wedi manteisio ar frechiadau plant?

 
11
OAQ53555 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofal iechyd meddwl yn y Gogledd?

 
12
OAQ53539 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ymwybyddiaeth o ganser yr ofari?

 
13
OAQ53550 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i bobl ifanc ag awstistiaeth yng Nghaerffili?

 
14
OAQ53549 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

 
15
OAQ53572 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithiolrwydd y broses gwynion yng Nghymru ar gyfer pobl sy'n anfodlon â'r driniaeth a gawsant gan y GIG?