Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/11/2019 i'w hateb ar 12/11/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ54687 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau ymarferol mae Llywodraeth Cymru yn ei gymryd yng Ngogledd Cymru er mwyn ateb yr argyfwng hinsawdd?

 
2
OAQ54664 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2019

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am effaith cytundeb fasnach rhwng y DU ac UDA ar GIG Cymru?

 
3
OAQ54654 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y cwangos yng Nghymru?

 
4
OAQ54662 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2019

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganran y gweithlu yng Nghymru sy'n ennill y cyflog byw neu uwch?

 
5
OAQ54686 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern?

 
6
OAQ54648 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i leihau tlodi plant?

 
7
OAQ54655 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella trafnidiaeth?

 
8
OAQ54675 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella cydnerthedd yn y sector iechyd?

 
9
OAQ54670 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gylch gorchwyl Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y ddogfen Ein Dull Gweithredu?

 
10
OAQ54656 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau gofal sylfaenol yn Ynys Môn?

 
11
OAQ54661 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt Llywodraeth Cymru ar Brexit, yn dilyn y cytundeb a wnaed rhwng Llywodraeth y DU a'r UE ym mis Hydref 2019?

 
12
OAQ54651 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella perfformiad y GIG yng ngogledd Cymru?

Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

1
OAQ54657 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro'r broses o weithredu Deddf Cydraddoldeb 2010 yng Nghymru?

 
2
OAQ54653 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2019

A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddiwrnod y rhuban gwyn?