Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/07/2022 i'w hateb ar 12/07/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mwy o bobl yng Nghwm Cynon i gael gwaith?
Sut mae'r Llywodraeth yn cysoni gwaith Cwmni Egino ar ddatblygu gorsafoedd pŵer niwclear â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau i amsugno costau ynni uwch?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun dychwelyd ernes?
Beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i warchod y sector rhentu tymor hir yn wyneb twf yn y sector rhentu tymor byr?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth iechyd drawsffiniol i gleifion rhwng Lloegr a Gogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drawsnewid gwasanaethau i wella gofal orthopedig ar draws y GIG?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd aer yn etholaeth Mynwy?
Beth oedd canlyniad y trafodaethau gafodd Gweinidogion gyda rhanddeiliaid ym Mangor ynghylch cynlluniau i wella canol y ddinas?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddatgarboneiddio diwydiant yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i amddiffyn trigolion gogledd Cymru rhag yr argyfwng costau byw?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fanteisio ar dîm pêl-droed dynion Cymru yn cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2022 fel rhan o'i strategaeth ryngwladol ar gyfer Cymru?