Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/06/2019 i'w hateb ar 12/06/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

1
OAQ54016 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gysylltiadau trafnidiaeth â gwasanaethau allweddol ym Mlaenau Gwent?

 
2
OAQ53980 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau trenau yng ngorllewin Cymru?

 
3
OAQ53994 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn o ran cyflawni ei hymrwymiadau mewn perthynas â seilwaith trafnidiaeth yn ystod tymor y Cynulliad hwn?

 
4
OAQ54018 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau bysiau ar draws Gorllewin De Cymru?

 
5
OAQ53996 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gefnogaeth a ddarparwyd yn dilyn y cyhoeddiad i gau ffatri Rehau yn Amlwch?

 
6
OAQ54021 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd economaidd busnesau bach yng nghymunedau gwledig Cymru?

 
7
OAQ53993 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i leddfu tagfeydd traffig o amgylch Casnewydd?

 
8
OAQ54010 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

A wnaiff y gweinidog ddatganiad am wariant cyhoeddus ar rwydwaith trenau Cymru?

 
9
OAQ53981 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gyda phrifysgolion yng Nghymru i ddatblygu cyflogaeth yn sectorau cyflog uchel a thwf yr economi?

 
10
OAQ53983 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am welliannau i'r seilwaith ffyrdd yng nganolbarth Cymru?

 
11
OAQ54012 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch dosraniad arwyddion ar gefnffyrdd a gynhelir gan Lywodraeth Cymru?

 
12
OAQ54002 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl yr M4 o ran datblygu economi Gorllewin De Cymru?

Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit

1
OAQ54019 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith a gaiff Brexit ar strwythur Cydbwyllgor y Gweinidogion?

 
2
OAQ54000 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Brexit gyda Llywodraeth y DU?

 
3
OAQ54001 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch rôl porthladdoedd Cymru ar ôl Brexit?

 
4
OAQ54014 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gefnogaeth cronfeydd strwythurol yr UE i brentisiaethau a hyfforddiant sgiliau yng Nghymru?

 
5
OAQ54003 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ar y cwestiwn i'w ofyn pe bai ail refferendwm yn cael ei chynnal ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd?

 
6
OAQ53998 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu'r mesurau paratoadol ychwanegol o ran dim bargen, y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas ag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol cyn 31 Hydref 2019?

 
7
OAQ54020 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar bolisi Llywodraeth Cymru ynglŷn â phleidlais y bobl?

 
8
OAQ54022 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefel y wybodaeth y mae Llywodraeth y DU yn ei rhannu â Llywodraeth Cymru wrth baratoi at Brexit heb gytundeb.

 
9
OAQ53988 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Brexit ar fewnfudo yng Nghymru?

 
10
OAQ53995 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

Pa asesidad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y byddai gadael yr UE yn ei chael ar y gallu i recriwtio deintyddion?

 
11
OAQ54013 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed mewn trafodaethau ar Brexit rhwng llywodraethau’r DU?

 
12
OAQ53990 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chyd-aelodau yn y cabinet am y berthynas rhwng Cymru a'r UE yn y dyfodol?