Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/03/2024 i'w hateb ar 12/03/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cenedlaethol?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu unrhyw gynlluniau posibl sydd gan Lywodraeth Cymru i ddal gafael ar gynhyrchu dur yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn Nwyrain Casnewydd?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud tuag at wella addysg dros y chwe blynedd diwethaf?
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella gwasanaethau cymorth pontio i bobl ifanc sy'n agored i niwed?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio bysiau?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn culhau anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ysgogi economi wledig Cymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i sefydliadau iechyd cymunedol yng Ngorllewin De Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad diweddaraf y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar weithredu Confensiwn Istanbul?