Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/12/2019 i'w hateb ar 11/12/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am y trafodaethau sydd wedi eu cynnal gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol am y cyfeiriadau at gynhyrchu ynni yn Ynys Mon sydd wedi eu cynnwys yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran plannu coed ledled Cymru?
Pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru i adfer mawndiroedd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r economi wledig?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau cerbydau niweidiol yng Nghanol De Cymru? Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau ar gyfer strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer tlodi tanwydd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sector bwyd-amaeth yng Ngogledd Cymru?
Pa gynnydd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'i wneud o ran rheoli coedwigaeth?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella tâl ac amodau ar gyfer gweithwyr fferm?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau ymaddasu i newid yn yr hinsawdd yng Nghymoedd y De?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y coed a gaiff eu plannu?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i wella ansawdd aer yn ne-ddwyrain Cymru?
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i gefnogi pobl ddigartref yn 2020?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant adeiladu tai?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gyn-filwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y materion diogelwch tân a ganfuwyd yn fflatiau cyfadeilad Celestia ym Mae Caerdydd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i lochesi ar gyfer y digartref?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiannau'r gronfa tai arloesol?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i alluogi gweithwyr awdurdodau lleol a deiliaid swyddi i sefyll mewn etholiad ar gyfer yr awdurdod hwnnw?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Sir Caerfyrddin ynghylch rhoi hwb i adeiladu tai cyngor yn y sir?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella safonau diogelwch tai Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynd i'r afael â digartrefedd yn Abertawe?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar losgi gwastraff?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i liniaru tlodi plant?