Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/11/2020 i'w hateb ar 11/11/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith pandemig COVID-19 ar fusnesau yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau yng Nghanol De Cymru yn sgil pandemig y coronafeirws?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau gwella ffyrdd yn Sir Drefaldwyn?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am isadeiledd rheilffyrdd yn y Gogledd?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae pandemig COVID-19 yn ei chael ar fusnesau yng Ngorllewin De Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cyfyngiadau symud ar economi Gogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau lletygarwch ar ôl y cyfnod atal byr?
Pa gymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghaerffili yr effeithiwyd arnynt gan y cyfnod atal byr a'r cyfyngiadau lleol a oedd ar waith cyn hynny?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr unigolion duon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sy'n ymgymryd â phrentisiaethau a hyfforddeiaethau?
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwelliannau sy'n cael eu gwneud i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn Islwyn?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella economi Gogledd Cymru unwaith y bydd pandemig COVID-19 wedi dod i ben?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn swyddi yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch polisi masnach y DU fel y mae'n ymwneud â Chymru?
Pa gynlluniau wrth gefn sydd gan Lywodraeth Cymru yn eu lle os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb?
Pa gamau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu cymryd i sicrhau bod ffermwyr yn ganolog i unrhyw gytundebau masnach rhyngwladol yn y dyfodol?
Pa drefniadau sydd ar waith i gefnogi ffermwyr Cymru drwy'r broses bontio Ewropeaidd?
Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o'r siawns o gael cytundeb masnach â'r UE?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu cylch gwaith y grŵp cynghori ar bolisi masnach a gyhoeddwyd yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 3 Tachwedd 2020?
Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran nodi manylion y gronfa ffyniant gyffredin?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin a'i goblygiadau i Gymru?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y mae penderfyniadau a wneir yng Nhyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) yn ei chael ar bobl Cymru?