Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/03/2020 i'w hateb ar 11/03/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1
OAQ55228 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl amenedigol i fenywod yn Arfon?

 
2
OAQ55225 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am roi'r Cynllun Gweithredu Coronafeirws ar waith i ddiogelu dinasyddion Islwyn?

 
3
OAQ55201 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella mynediad at gymorth iechyd i gyn-filwyr?

 
4
OAQ55219 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynnydd a wnaed o ran recriwtio prif weithredwr newydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

 
5
OAQ55216 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am barodrwydd adrannau damweiniau ac achosion brys yng Ngorllewin De Cymru i fynd i'r afael â coronafeirws?

 
6
OAQ55199 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau safonau gofal uchel yn GIG Cymru?

 
7
OAQ55232 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth ariannol i ddioddefwyr o Gymru yn y sgandal gwaed halogedig?

 
8
OAQ55197 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwella gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda dros y 12 mis nesaf?

 
9
OAQ55221 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau arennol yng Nghymru?

 
10
OAQ55230 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

Pa fesurau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb o ran iechyd plant yng Nghymru?

 
11
OAQ55224 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl sy'n byw gydag anhwylderau bwyta?

 
12
OAQ55210 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r gwasanaeth iechyd dros y flwyddyn sydd i ddod?

Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

1
OAQ55207 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau treth incwm Cymru?

 
2
OAQ55227 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

Pa drafodaeth y mae'r Gweinidog wedi ei gynnal gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar sut gall Llywodraeth Cymru helpu ariannu cynlluniau i leihau y nifer o dai gwag yn y gogledd?

 
3
OAQ55202 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch mynediad at gymorth ariannol brys i drigolion y mae'r llifogydd diweddar wedi effeithio arnynt?

 
4
OAQ55234 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Changhellor y DU cyn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth y DU?

 
5
OAQ55204 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch unrhyw gyllid ychwanegol a fydd yn cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru i ymdrin â'r difrod a achoswyd gan storm Ciara a storm Dennis?

 
6
OAQ55212 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddatganiad cyllideb Canghellor y DU?

 
7
OAQ55200 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau gwerth am arian yn ei chyllideb flynyddol?

 
8
OAQ55192 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

A wnaiff y Gweinidog amlinellu proses flaenoriaethu cyllideb Llywodraeth Cymru?

 
9
OAQ55233 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin?

 
10
OAQ55195 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o werth am arian unrhyw fenthyciadau a ddarperir i gyrff allanol?

 
11
OAQ55194 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru?

 
12
OAQ55209 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ariannu'r gwaith o hyrwyddo cymunedau caredicach wrth ddyrannu cyllideb Llywodraeth Cymru?

Cwnsler Cyffredinol

1
OAQ55206 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2020

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch effaith gyfreithiol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar ddileu pob math o wahaniaethu yn erbyn menywod (CEDAW)?

 
2
OAQ55203 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2020

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r posibilrwydd o sefydlu llysoedd cyffuriau ac alcohol i deuluoedd yng Nghymru?

 
3
OAQ55205 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2020

Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru i gefnogi'r apêl Backto60 ynghylch y camdrafod honedig o ran codi oedran pensiwn y wladwriaeth ar gyfer menywod a anwyd yn y 1950au?

Comisiwn y Cynulliad

1
OAQ55226 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y baneri a gaiff eu hedfan ar ystâd y Cynulliad?

 
2
OAQ55211 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i godi ymwybyddiaeth ymhlith y rhai sydd newydd gymhwyso i bleidleisio dros eu hawl i wneud hynny yn etholiad y Senedd ym mis Mai 2021?

 
3
OAQ55196 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020

A wnaiff y Comisiyndd ddatganiad am ba gyngor a roddir i staff Comisiwn y Cynulliad mewn perthynas ag atal coronavirus?