Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/01/2023 i'w hateb ar 11/01/2023

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Newid Hinsawdd

1
OQ58924 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella bioamrywiaeth yn afonydd Cymru?

 
2
OQ58902 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am welliannau i reilffordd y Cambrian?

 
3
OQ58918 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effeithiolrwydd Rhentu Doeth Cymru o ran cynyddu safonau o fewn y sector rhentu?

 
4
OQ58920 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith newid hinsawdd yng Ngorllewin Clwyd?

 
5
OQ58899 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella effeithlonrwydd ynni'r stoc dai yn Arfon?

 
6
OQ58910 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y gwaith i ail-agor pont y Borth?

 
7
OQ58915 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i alluogi prosiectau egni adnewyddadwy lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
8
OQ58921 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cynnal gyda llywodraethau eraill er mwyn rhannu arferion da ynghylch cefnogi ynni adnewyddadwy?

 
9
OQ58928 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau ffosffad yn afonydd Cymru?

 
10
OQ58906 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau allyriadau carbon Cymru o fwyd?

 
11
OQ58926 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd aer yn Nwyrain Casnewydd?

 
12
OQ58919 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

A wnaiff y Gweinidog ddarparu ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi feto ar unrhyw byllau glo newydd yng Nghymru?

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

1
OQ58911 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

Pa gamau fydd y Gweinidog yn eu cymryd i wella canlyniadau addysgol disgyblion ysgol yn 2023?

 
2
OQ58909 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r ddarpariaeth o addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg ar draws Pen-y-bont ar Ogwr?

 
3
OQ58914 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r iaith Gymraeg mewn ysgolion a chymunedau gwledig?

 
4
OQ58908 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

Sut bydd Llywodraeth Cymru'n cynyddu'r nifer sy'n dewis pynciau STEM ymhlith myfyrwyr Gorllewin De Cymru?

 
5
OQ58905 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod y sgiliau sydd eu hangen ar ddiwydiant yn cael eu haddysgu yn system addysg Cymru?

 
6
OQ58927 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysgu ieithoedd tramor modern?

 
7
OQ58925 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i gynyddu teithio llesol i ysgolion a cholegau?

 
8
OQ58922 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan bob dysgwr a chymuned fynediad cyfartal at addysg Gymraeg?

 
9
OQ58923 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o addysg yn Sir Drefaldwyn?

 
10
OQ58913 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfraddau absenoldeb ysgolion?

 
11
OQ58903 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl ysgolion ffydd yng Ngogledd Cymru?

 
12
OQ58901 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi disgyblion anghenion dysgu ychwanegol?