Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/12/2019 i'w hateb ar 10/12/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnydd gan Fwrdd Iechyd Prifysol Betsi Cadwaladr o ymgynghorwyr allanol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i wella gwasanaethau bysiau yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi staff yn y GIG yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch lleihau amseroedd aros am lawdriniaeth i drin canser y pancreas?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith Tasglu'r Cymoedd ym Mlaenau Gwent?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb o ran cyflymder band eang yng ngorllewin Cymru?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau goroesi canser yn 2020?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau datgarboneiddio Llywodraeth Cymru?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn meysydd heblaw trafnidiaeth i gyrraedd ei tharged o leihau allyriadau carbon 80 y cant erbyn 2050?
Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â safleoedd anghyfreithlon i deithwyr yng Nghymru?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am wella diogelwch cymunedol yn Abertawe?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am wasanaethau cynghori yng Nghaerdydd?