Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/11/2020 i'w hateb ar 10/11/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ55848 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o wleidyddiaeth yng Nghymru?

 
2
OQ55845 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lacio cyfyngiadau'r coronafeirws yng Nghaerffili?

 
3
OQ55816 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am driniaeth nad yw'n gysylltiedig â COVID-19 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

 
4
OQ55813 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2020

Pa bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru i reoli sut y defnyddir tân gwyllt?

 
5
OQ55821 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2020

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ynghylch gweithredu'r gronfa ffyniant gyffredin arfaethedig yn y dyfodol?

 
6
OQ55832 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2020

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Thrysorlys y DU ynghylch TAW ar gyfarpar diogelu personol?

 
7
OQ55843 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y data diweddaraf am heintiau COVID-19 yn ardal awdurdod lleol Merthyr Tudful?

 
8
OQ55846 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2020

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ysgolion drwy'r pandemig COVID-19?

 
9
OQ55844 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am droseddau casineb yng Nghanol De Cymru?

 
10
OQ55847 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran sicrhau y gall trigolion cartrefi gofal weld eu hanwyliaid yn ystod pandemig COVID-19?

 
11
OQ55830 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2020

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o resymoldeb ac effeithiolrwydd cyfyngiadau symud Llywodraeth Cymru?

 
12
OQ55826 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd o ran cyflwyno'r cyflog byw ar draws y sector cyhoeddus?