Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/10/2018 i'w hateb ar 10/10/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Pa ystyriaeth a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet i wasanaethau ataliol wrth benderfynu ar y gyllideb ddrafft?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wariant Llywodraeth Cymru yn 2019-20 ym Mynwy?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y bydd y gyllideb ddrafft yn helpu awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru yn sgil y pwysau ariannol sydd arnynt?
Pa effaith y mae'r gyfradd dreth trafodiadau tir o 6 y cant wedi'i chael ar refeniw treth o drafodiadau eiddo masnachol dros £1 miliwn ers mis Ebrill 2018?
Pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal i sicrhau y bydd cronfeydd strwythurol yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru ar ôl Brexit?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y rhagolygon ariannol sy'n sail i'r gyllideb ddrafft?
Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi i gynorthwyo'r gwaith o ddileu digartrefedd wrth ddyrannu arian i'r portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran symud tuag at fodel cyllidebu sy'n canolbwyntio mwy ar wario ataliol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gaffael cyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith cyllideb ddiweddar Llywodraeth Cymru ar dalwyr y dreth gyngor yng Ngorllewin De Cymru?
Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i ddarparu cymorth ariannol i helpu sefydliadau i baratoi ar gyfer Brexit wrth ddyrannu'r gyllideb ddrafft?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gyfarfod â chyngor dinas Preston i ddeall pa wersi y gall Llywodraeth Cymru eu dysgu o'i ffordd o ymdrin â chaffael cyhoeddus?
Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fand eang cyflym iawn ym Mynwy?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddatblygu 5G yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith diweddaraf i gyflwyno band eang ym Mhreseli Sir Benfro?
Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hyrwyddo cydweithio digidol rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â bwlio ar sail rhyw?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o fand eang yn Nwyrain Casnewydd?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi datganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno band eang cyflym iawn ledled Cymru?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y ddarpariaeth o fand eang cyflym iawn yng Nghaerffili?
Pa gamau diweddar y mae Arweinydd y Tŷ wedi'u cymryd mewn perthynas â'i chyfrifoldebau portffolio dros gydraddoldeb?
Pa drafodaethau y mae Arweinydd y Tŷ wedi'u cael gyda'r Cwnsler Cyffredinol ynghylch y camau y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod yr hawliau a nodir yn siarter hawliau sylfaenol Ewrop yn cael eu hymgorffori o fewn cyfraith Cymru ar ôl i'r DU ymadael â'r UE?
Pa drafodaethau diweddar y mae Arweinydd y Tŷ wedi'u cael am hawliau dynol mewn perthynas â chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig a'r UE?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am argaeledd 3G a 4G yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd trawsnewid digidol ar draws sector cyhoeddus Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn goruchwylio cydymffurfiaeth â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus?
Comisiwn y Cynulliad
Pa werthusiad y mae'r Comiswn wedi'i wneud o gyfranogiad y Cynulliad yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 ym Mae Caerdydd?
Pa ddigwyddiadau y mae'r Comisiwn wedi'u cynllunio i goffáu canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf?
Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i wella'r amgylchedd o amgylch y Cynulliad?
Beth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i annog pobl ifanc i ymweld â'r Cynulliad?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ddarparu adnoddau ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru?
A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am barodrwydd y Cynulliad a'i swyddfeydd ledled y wlad i ymateb i ymosodiadau terfysgol posibl?