Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/03/2020 i'w hateb ar 10/03/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ55239 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2020

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella ymgysylltiad dinasyddion yng ngwleidyddiaeth a democratiaeth Cymru?

 
2
OAQ55193 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygiad gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol?

 
3
OAQ55191 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiectau cynhyrchu ynni lleol a chymunedol o amgylch Cymru?

 
4
OAQ55222 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru?

 
5
OAQ55231 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2020

Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid eraill i adfywio canol Dinas Casnewydd?

 
6
OAQ55190 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau o ran ymdrin â chostau'r llifogydd diweddar?

 
7
OAQ55214 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2020

Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwrthdroi colledion bioamrywiaeth yng Nghymru?

 
8
OAQ55229 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon?

 
9
OAQ55236 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ariannu hosbisau yng Nghymru?

 
10
OAQ55235 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2020

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cytundebau tenantiaeth yn diwallu anghenion tenantiaid mewn tai cymdeithasol?

 
11
OAQ55238 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2020

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ers etholiad cyffredinol y DU ynghylch dyfodol y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru?

 
12
OAQ55198 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ba fesurau sydd ar waith i annog busnesau bach a chanolig eu maint sy'n adeiladwyr tai yn ôl i farchnad Cymru?