Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/04/2019 i'w hateb ar 08/05/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

1
OAQ53813 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus wledig yn Sir Gaerfyrddin?

 
2
OAQ53806 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gostau teithio ar y rheilffordd yng nghanolbarth Cymru?

 
3
OAQ53796 (w) Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddatblygu busnesau ym Mharc Bryn Cegin, Bangor?

 
4
OAQ53810 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y Cytundeb Partneriaeth Economaidd rhwng yr UE a Japan ar Gymru?

 
5
OAQ53808 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella hyfforddiant sgiliau yng Nghymru?

 
6
OAQ53792 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Tasglu'r Cymoedd fel y mae'n effeithio ar Flaenau Gwent?

 
7
OAQ53822 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth yng nghanol ardaloedd trefol yng Nghymru?

 
8
OAQ53820 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda swyddogion maes awyr Caerdydd ynghylch ehangu ei wasanaethau cludo nwyddau a'r ardal fusnes?

 
9
OAQ53818 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd diweddar a wnaed o ran gwelliannau adran 5 a 6 yr A465?

 
10
OAQ53804 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y difrod diweddar i reilffordd Dyffryn Conwy?

 
11
OAQ53814 (w) Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu economi gogledd Môn?

Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit

1
OAQ53815 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch dyfodol y gyfarwyddeb llosgi gwastraff ar ôl Brexit?

 
2
OAQ53819 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyfredinol ddatganiad am ddosbarthu cymorth ariannol i fentrau yn y gymuned drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru?

 
3
OAQ53799 (w) Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i baratoi am bleidlais y bobl o ran ymadawiad y DU â'r UE?

 
4
OAQ53800 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019

Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar weithredu'r penderfyniad a wnaed yn refferendwm yr UE?

 
5
OAQ53812 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019

Pa gamau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu cymryd i weithio gyda phob awdurdod lleol ledled Cymru i baratoi am Brexit heb gytundeb?

 
6
OAQ53805 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal dadansoddiad o effeithiau posibl Brexit ar gadwyni cyflenwi yng Nghymru?

 
7
OAQ53802 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am Gronfa Bontio'r UE?

 
8
OAQ53811 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael yn ddiweddar gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch effaith Brexit ar GIG Cymru?