Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 31/01/2023 i'w hateb ar 08/02/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Pa gynlluniau sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru i helpu pobl ifanc Arfon gyda chostau teithio ar drafnidiaeth cyhoeddus?
Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei darparu ar gyfer cymunedau arfordirol sy'n wynebu bygythiad o lifogydd?
Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud tuag at ei tharged o gyflenwi 70 y cant o alw trydan Cymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030?
Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â diogelwch adeiladau?
Pa feini prawf y mae'r Gweinidog yn eu rhoi ar waith wrth benderfynu a ddylid gwyrdroi penderfyniad awdurdod lleol i wrthod caniatâd cynllunio?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru parthed codi peilonau trydan yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa ystyriaeth mae'r Gweinidog wedi ei rhoi i'r ddeiseb a roddwyd i Lywodraeth Cymru ddydd Iau 12 Ionawr mewn perthynas â phwll glo Ffos-y-Fran?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n ymgysylltu ag awdurdodau lleol o ran yr adolygiad o ffyrdd?
Beth yw asesiad y Gweinidog o gapasiti Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni ei ddyletswyddau’n llawn?
Pa sgyrsiau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am ei Chynllun Gwella'r Amgylchedd 2023?
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r gwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gâr yn ôl data'r cyfrifiad diwethaf?
Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei rhoi i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol sydd am fynychu i addysg ôl-16, a'u teuluoedd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno Cwricwlwm i Gymru Llywodraeth Cymru?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i godi safonau addysgol yn Islwyn?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynglŷn â sut y gall y system addysg helpu i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth ar gyfer ysgolion bro?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o fesurau posibl i arbed costau ar gyfer ysgolion?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion niwroamrywiol?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i sicrhau bod y nifer mwyaf posibl yn manteisio ar ei chynnig prydau ysgol am ddim i bawb?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol i geisio sicrhau bod gan yr holl staff sy’n gweithio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg sgiliau iaith Gymraeg?
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael ag absenoldeb o'r ysgol yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg ym Mhreseli Sir Benfro ar gyfer y 12 mis nesaf?