Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/01/2019 i'w hateb ar 08/01/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu cynlluniau datblygu lleol yng Nghanol De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu canllawiau i gefnogi awdurdodau lleol yn y gwaith o asesu ceisiadau cynllunio ar gyfer unedau dofednod dwys?
Faint o dai cyngor y mae'r Prif Weinidog yn disgwyl y caiff eu hadeiladu yn y flwyddyn ariannol 2019/20?
Beth yw blaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer economi Cymru?
Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynnal cymunedau gwledig?
Pa bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu treftadaeth ddiwylliannol Caerdydd rhag datblygwyr?
Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i hyrwyddo mynediad cyhoeddus am ddim at ddŵr yfed dros y 12 mis nesaf?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu pobl allan o ddigartrefedd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi presennol Llywodraeth Cymru ar ffordd liniaru'r M4?
Pryd y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu cyhoeddi rhaglen lywodraethu newydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y stryd fawr yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiwygio etholiadol o fewn llywodraeth leol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu rhanbarthol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i gyrff ymchwil polisi annibynnol yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i gefnogi democratiaeth leol?