Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/07/2026 i'w hateb ar 07/07/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi ar gyfer cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cynghorau lleol yn cael eu hariannu'n ddigonol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefydlu asiantaeth ddatblygu yng Nghymru?
Pa drefniadau gofal iechyd trawsffiniol sydd gan Lywodraeth Cymru gyda darparwyr gwasanaethau iechyd yn Lloegr?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gynllunio'r gweithlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r prinder yn y gweithlu gwasanaethau canser ledled Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pryd y bydd graddedigion nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghaerdydd Ffynnon Taf yn cael cynnig gwaith yn y GIG?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer lles anifeiliaid?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros am ambiwlans?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau rheilffyrdd ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau dyfarniad cyflog teg, wedi'i ariannu'n llawn, i weithwyr llywodraeth leol?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ym Mhontypridd Cynon Merthyr?