Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/02/2023 i'w hateb ar 07/02/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad y 2 Sisters Food Group ar gau ei safle yn Llangefni?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddiogelwch adeiladau y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn berchen arnynt?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yng Nghwm Cynon?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad Adeiladau'r Frenhines yn y Rhyl?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gynyddu capasiti gwelyau gofal llai dwys i gleifion ar draws Pen-y-bont?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles anifeiliaid?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi busnesau i ymestyn eu cynnig iechyd galwedigaethol?
Sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu helpu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yn Nwyrain De Cymru gyda'r argyfwng costau byw?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n monitro sut y caiff Deddf Cydraddoldeb 2010 ei rhoi ar waith mewn gwasanaethau cyhoeddus?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau diogelwch menywod mewn ardaloedd trefol ar ôl iddi dywyllu?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi chwythwyr chwiban?
Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd diweddar mewn ceisiadau am warantau llys i osod mesuryddion rhagdalu drwy rym yng nghartrefi pobol?