Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/01/2020 i'w hateb ar 07/01/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ54892 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/01/2020

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau yng Nghanol De Cymru?

 
2
OAQ54862 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/01/2020

Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i'r adolygiad diweddar o farwolaethau plant a phobl ifanc drwy hunanladdiad neu achos honedig o hunanladdiad?

 
3
OAQ54889 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/01/2020

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin?

 
4
OAQ54890 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/01/2020

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r goblygiadau i Gymru sy'n deillio o Fil yr UE (Cytundeb Ymadael)?

 
5
OAQ54864 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar y ddarpariaeth gofal cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg?

 
6
OAQ54861 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau staff nyrsio yng Nghymru?

 
7
OAQ54876 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/01/2020

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch sicrhau cyllid teg i Gymru?

 
8
OAQ54880 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth iechyd dros y deuddeg mis nesaf?

 
9
OAQ54855 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adeiladu tai cyngor yng Nghymru?

 
10
OAQ54891 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/01/2020

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch gweithredu'r penderfyniad a wnaed yn refferendwm yr UE?

 
11
OAQ54869 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid a ddarperir ar gyfer Cyngor Sir y Fflint?

 
12
OAQ54858 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 02/01/2020

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020?

Cwnsler Cyffredinol

1
OAQ54884 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith yn y DU ar ffyrdd o gryfhau Undeb Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon?

 
2
OAQ54877 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU mewn perthynas â Deddf Cymru 2017?

 
3
OAQ54863 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

Pa drafodaethau mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael hefo'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynglŷn â chydraddoldeb yn y gyfraith, yn sgil adroddiad Comisiwn Thomas?

 
4
OAQ54885 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynghylch rôl Goruchaf Lys y DU yn y dyfodol?

 
5
OAQ54883 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â lesddeiliadaeth ar dai?

 
6
OAQ54872 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r sector cyfreithiol ynghylch effaith y Gronfa Ffyniant Gyffredin?