Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/10/2019 i'w hateb ar 06/11/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu swyddi gweithwyr dur Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau i wella cefnffordd yr A4042 yn Llanelen?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am seilwaith cysylltedd digidol ar gyfer cymoedd de Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu economaidd yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am barodrwydd cefnffyrdd cyn tywydd gwael posibl?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cysylltiadau trafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am seilwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Trafnidiaeth Cymru i gynyddu capasiti teithwyr ar gyfer defnyddwyr rheilffyrdd yn Islwyn?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am economi ardal Bae Abertawe?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth TrawsCymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglenni Ewropeaidd ar gyfer sgiliau a chyflogaeth yn Ynys Mon?
Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effeithiolrwydd y berthynas rhwng llywodraeth y DU a llywodraeth Cymru ar Brexit?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Brexit ar buro dŵr yfed?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda diwydiant yng ngogledd Cymru yn dilyn cyhoeddi estyniad i Brexit tan 31 Ionawr 2020?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am yr effaith y bydd oedi pellach i gytundeb Brexit yn ei chael ar Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch cyfranogiad parhaus myfyrwyr o Gymru yn y rhaglen Erasmus Plus ar ôl Brexit?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ynghylch tracio troseddau trawsffiniol ar ôl Brexit?
Pa fesurau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu cymryd cyn Brexit i ddiogelu economi Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y cytundeb ymadael diweddaraf ar hawliau gweithwyr yng Nghymru?