Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 01/10/2026 i'w hateb ar 06/10/2026

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ64619 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2026

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru?

 
2
OQ64621 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2026

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae swyddfeydd rhyngwladol Llywodraeth Cymru yn darparu gwerth am arian i drethdalwyr Cymru?

 
3
OQ64647 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2026

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod ei chynnig gofal plant yn hyblyg ac yn diwallu anghenion rhieni?

 
4
OQ64617 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2026

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith chwaraeon proffesiynol ar economi Cymru?

 
5
OQ64675 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2026

Pa gynnydd y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ran gwella mynediad amserol at ofal y GIG?

 
6
OQ64674 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2026

Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yn nhymor y Senedd hon?

 
7
OQ64651 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2026

Sut bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi capasiti presgripsiynu cymdeithasol yn Afan Ogwr Rhondda?

 
8
OQ64650 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2026

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud ynghylch a yw'r fframwaith teithio presennol i ddysgwyr yn darparu mynediad teg at addysg ledled Cymru?

 
9
OQ64653 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi goroeswyr camdriniaeth yn ystod plentyndod sy'n profi trawma pellach wrth geisio cael mynediad at gofnodion gwaith cymdeithasol, iechyd neu'r heddlu hanesyddol?

 
10
OQ64646 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu lefelau caffael lleol?

 
11
OQ64616 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2026

A fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymchwiliad llawn yng Nghymru ar gangiau grŵmio?

 
12
OQ64648 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2026

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru?

Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad

1
OQ64628 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2026

A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi diweddariad ar y Comisiwn Cenedlaethol arfaethedig i Gymru?

 
2
OQ64620 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2026

Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o effaith perthynas Llywodraeth Cymru ag undebau llafur ar effeithiolrwydd y llywodraeth?

 
3
OQ64626 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2026

Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o'r modd y gall ystadegau gefnogi o ran gwneud penderfyniadau mwy effeithiol gan y llywodraeth a'r sector cyhoeddus ledled Cymru?

 
4
OQ64638 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2026

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda Gweinidog y Cabinet dros Gyllid ynglŷn â chyflawni blaenoriaeth y Llywodraeth o weithio i wella lefelau caffael lleol?

 
5
OQ64633 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2026

Sut mae'r Gweinidog Cabinet yn gwella'r ffordd y mae polisïau'r Llywodraeth yn cael eu cyflawni?

 
6
OQ64630 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2026

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r angen am Ddeddf Cymru newydd i sicrhau pwerau sy'n gyfartal â'r Alban?

 
7
OQ64636 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatganoli gwneud penderfyniadau o fewn Cymru?

 
8
OQ64627 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2026

Sut mae’r Llywodraeth yn mynd ati i sicrhau cydweithio traws-portffolio i gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu?

 
9
OQ64613 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2026

Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod y Llywodraeth yn gallu cyflawni ei blaenoriaethau i bobl Cymru?

 
10
OQ64637 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2026

A wnaiff y Gweinidog Cabinet amlinellu sut mae'n bwriadu mesur llwyddiant Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru?

 
11
OQ64634 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2026

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda Gweinidog Plismona y DU ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynglŷn â datganoli plismona?

 
12
OQ64623 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei gweithredu'n llwyddiannus?