Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 28/02/2024 i'w hateb ar 06/03/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am siarter budd-daliadau Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gyflawni Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn ystod yr argyfwng costau byw?
Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o'r effaith y caiff y cap newydd ar bris ynni ar dlodi tanwydd yng Nghymru?
Pa waith y mae tasglu hawliau pobl anabl a fforwm cydraddoldeb i bobl anabl Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ran sicrhau bod pobl â nam ar eu golwg yn gallu cael gafael ar waith neu brofiad gwaith cyflogedig neu wirfoddol?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o rôl gofal plant hygyrch o safon uchel wrth fynd i'r afael â thlodi plant?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymdrechion i fynd i'r afael ag iaith casineb a radicaleiddio yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o’r effaith ar dlodi tanwydd yng Nghymru yn sgil y ffaith bod cyflenwyr ynni unwaith eto’n gosod mesuryddion rhagdalu gorfodol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod hawliau pobl anabl yn cael eu cefnogi?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o lefelau tlodi yng Nghymru?
Pryd fydd y gwaith yn dechrau i gasglu tystiolaeth o brofiadau o arferion trosi yng Nghymru, fel y nodir yng nghynllun yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd ar gyfer 2022 i 2027?
Pa baratoadau y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud i gefnogi ffoaduriaid o'r gwrthdaro yn Gaza?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Pa drafodaethau diweddar y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael â swyddogion eraill y gyfraith ynglŷn â menywod a anwyd yn y 1950au sydd wedi colli pensiynau yn sgil targedu eu hawliau pensiwn?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith diwygio'r Senedd ar bobl yn Sir Ddinbych?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â deddfu adrannau 116 i 125 o Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022, yn sgil y dyfarniad yn achos Triathlon Homes yn erbyn Stratford Village Development Partnership ac eraill?
Pa gynnydd sydd wedi ei wneud o ran diwygio tribiwnlysoedd datganoledig?
Sut y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i annog y gwaith o recriwtio a chadw ynadon yng Nghymru?
Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i gynnal refferendwm ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch yr hawliau i ddelweddau o berthnasau a fu farw neu a oedd ar fin marw mewn ysbytai yn ystod COVID?
Ai safbwynt Llywodraeth Cymru yw bod defnyddio system rhestr gaeedig, fel y cynigir ym Mil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), yn adlewyrchu gwerthoedd democrataidd Cymru?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ba gyngor cyfreithiol sydd ar gael i Weinidogion?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ynghylch effaith Deddf Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) 2023 ar y sector cyhoeddus yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ymgyrch cyfiawnder Orgreave a sicrhau cyfiawnder i drigolion Cymru?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith bosibl ar Gymru yn sgil cytundeb Gogledd Iwerddon a phapur gorchymyn ‘Safeguarding the Union’?
Comisiwn y Senedd
A wnaiff y Comisiwn roi diweddariad am argaeledd gwasanaethau cyfieithu i ieithoedd heblaw am y Gymraeg a’r Saesneg?
Sut y mae Comisiwn y Senedd yn cefnogi gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu?
Sut y mae'r Comisiwn yn cefnogi Senedd Ieuenctid Cymru i ymgysylltu â seneddau ieuenctid eraill?