Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/01/2019 i'w hateb ar 06/02/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Addysg
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru ag awdurdodau lleol yng Ngwent ynghylch darpariaeth y gwasanaeth SenCom?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer parhau i ddatblygu rôl addysg bellach?
Pa gamau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd i sicrhau y clywir lleisiau pobl ifanc wrth ddatblygu Cwricwlwm Cymru, Cwricwlwm am Oes?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i addysg oedolion ym Merthyr Tudful a Rhymni?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu Cwricwlwm Cymru, Cwricwlwm am Oes?
Sut y bydd y broses o ddiwygio'r cwricwlwm ysgol yn gwella canlyniadau addysgol mewn cymunedau o dan anfantais?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllido yn y portffolio addysg?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dimensiwn Cymreig o fewn y cwricwlwm newydd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth iechyd meddwl mewn ysgolion?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu?
Pa gamau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd i sicrhau y bydd y canlyniadau PISA a gyhoeddir cyn bo hir ar gyfer Cymru yn gwella ar berfformiad y gorffennol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithiolrwydd y consortia addysg yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer profion addysg PISA 2021?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ariannu clybiau brecwast yng nghanolbarth Cymru?
Pa broses ymgysylltu sydd sydd gan Lywodraeth Cymru â phrifysgolion Cymru ynghylch y cyrsiau y maent yn eu cynnig i fyfyrwyr?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda theuluoedd cleifion ward Tawel Fan ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am barcio am ddim ar safleoedd ysbytai yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ariannu gofal iechyd yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau meddygon teulu yng Nghanol De Cymru?
Pa gynnydd sy'n cael ei wneud i wella amseroedd ymateb ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru?
Pa ganllawiau a roddir gan Lywodraeth Cymru i’r byrddau iechyd o ran ymgysylltu a’r cyhoedd ynglyn â newidiadau i wasanaethau?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag apwyntiadau a gaiff eu colli yn y GIG?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am recriwtio i'r GIG yng Nghymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro dros y 12 mis nesaf?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adeiladu ysbytai newydd yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysau'r gaeaf yn y GIG yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau obstetreg a gwasanaethau pediatrig cleifion mewnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o driniaeth bracitherapi dos uchel ar gyfer canser y prostad?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau trin poen cronig ar gyfer cleifion yng nghanolbarth Cymru?
Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal salwch?