Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 31/10/2019 i'w hateb ar 05/11/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ54638 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2019

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a gyhoeddwyd y mis diwethaf?

 
2
OAQ54616 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2019

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch gwella'r cymorth i'r rhai sy'n dioddef profedigaeth ar ôl hunanladdiad yng Nghymru ?

 
3
OAQ54634 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2019

Pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i gefnogi'r economi yng Nghymru?

 
4
OAQ54645 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc?

 
5
OAQ54644 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad cleifion at ofal iechyd yng Ngorllewin De Cymru?

 
6
OAQ54640 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2019

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch gweithredu'r Gronfa Ffyniant Gyffredin arfaethedig?

 
7
OAQ54623 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
8
OAQ54627 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu tai cymdeithasol yng Ngorllewin De Cymru?

 
9
OAQ54614 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2019

Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi ynghylch cyflogau'r sector cyhoeddus yng Nghymru?

 
10
OAQ54621 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith y gostyngiad yn y grant bloc ers 2010?

 
11
OAQ54624 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ganlyniadau arholiadau ysgolion yng Nghymru?

 
12
OAQ54643 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2019

Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ddiogelu'r cyflenwad o feddyginiaethau generig ar gyfer GIG Cymru yng ngoleuni trafodaethau masnach diweddar Llywodraeth y DU?