Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 29/02/2024 i'w hateb ar 05/03/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r pwysau y mae ffermwyr Cymru yn eu hwynebu?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran cyflawni'r ymrwymiadau a wnaed i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn y datganiad y cytunwyd arno yn yr uwchgynhadledd diwygio radical ym mis Rhagfyr 2022?
Beth yw gweledigaeth y Prif Weinidog ar gyfer datblygu Senedd Cymru dros y 10 mlynedd nesaf?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth gofal plant yng Nghwm Cynon?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl â diabetes yn Nwyrain De Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r ddarpariaeth o ran gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waddol amgylcheddol cloddio am lo yn Nwyrain De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynllunio ar gyfer argyfyngau sifil posibl yng Nghymru yn deillio o ymosodiad seiber yn erbyn y DU gan bŵer tramor?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal â Llywodraeth y DU ynghylch y posibilrwydd o wladoli Tata Steel?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y marwolaethau y gellid eu hatal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ariannu addysg ar gyfer ysgolion yn Sir Ddinbych?